Diolch yn fawr iawn i’n holl rieni sydd wedi ein helpu i godi arian ar gyfer Plant mewn Angen. Bellach rydym wedi codi bron i £ 550.
Llongyfarchiadau i Kirsty a gafodd faban bach yr wythnos hon. Mae’r ddau ohonynt yn gwneud yn dda.
Mae ein bocsys esgidiau cyntaf wedi dechrau cyrraedd ar gyfer yr apêl Ddigartrefedd, unwaith eto, diolch am eich caredigrwydd.
Mae ein tudalen Facebook preifat i rieni yn profi’n boblogaidd, plis byddwch yn amyneddgar gyda ni tra byddwn yn dal i fyny ar lwytho lluniau. Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech chi rannu pethau oddi ar ein prif dudalen Facebook, gan mai dyma’r ffordd orau o hysbysebu, diolch.
Yr wythnos hon mae Cheryl wedi mynychu cwrs gloywi fel ein bod ni’n cadw ein hachrediad Tiny Tums. Ym mis Ionawr, gobeithiwn y bydd Ceri, Emma a Carla yn mynychu’r cwrs llawn a byddwn yn gallu lansio bwydlen newydd yn y gwanwyn gyda sesiynau blasu ar gyfer rhieni.
Mae’r gweithgareddau Nadolig wedi cychwyn gyda gliter a thinsel ac unrhyw beth arall sy’n sbarduno o gwmpas pob cornel. Rydym yn gobeithio y bydd y plant yn mwynhau’r wythnosau nesaf.
Dyddiadau pwysig:
Rydym yn cau am y Nadolig ar 21ain Rhagfyr ac yn ailagor ar yr 2il o Ionawr.
Bydd Clwb Gwyliau ar agor o’r 2il – 4ydd Ionawr 2019
Mae gennym ni ‘wythnos siwpr Nadolig’ o’r 10eg – 14eg Rhagfyr
Cinio Nadolig ar y 18fed o Ragfyr a pharti Nadolig ar brynhawn y 21ain o Ragfyr.
*********
A huge thank you to all of our parents who supported us with raising money for Children in Need. We still have money coming in and have now raised close to £550.
Congratulations to Kirsty who had a baby boy this week. Both of them are doing well.
Our first shoe boxes have started arriving for the Homeless appeal, once gain, thank you.
Our parents Facebook page is proving to be popular, please bear with us while we catch up on uploading pictures. We would be very grateful if you could still share posts off our main Facebook page as this is still our most successful form of advertising, Thank you
This week Cheryl has attended a refresher course so that we keep our Tiny Tums accreditation. In January we hope that Ceri, Emma and Carla will be doing the full course and we will be able to launch a new menu in the spring with tasting sessions for parents.
Christmas preparations are starting in earnest with glitter and tinsel and anything else that sparkles around every corner. We hope that the children will enjoy the next few weeks.
Important dates:
We close for Christmas on the 21st December and reopen on the 2nd of January.
Holiday Club will be open from the 2nd – 4th January 2019
We have Christmas jumper week from the 10th – 14th December
Christmas Dinner on the 18th of December and a Christmas party on the afternoon of the 21st of December.