Enfys

Rwyf wrth fy modd yn edrych am fy mheg i hongian fy nghot yn y feithrinfa, mae un fi wrth ymyl un fy ffrind Hari. Ar ôl i mi olchi fy nwylo a chymryd fy nhymheredd, rydw i’n mynd i chwarae cyn i ni gael brecwast. Mae Bethan ac Olwen wedi rhoi llawer o weithgareddau allan. Dwi wrth fy modd yn chwarae gyda’r cwpanau sgleiniog yn y tŷ bach. Byddaf yn gofyn i Siôn Corn am rai er mwyn i mi allu chwarae efo rhai debyg yn fy ystafell wely. Mae Lauren yn fy helpu i wisgo i fyny ac rwy’n cael hwyl yn esgus mai fy nghaffi yw hwn tra dwi’n rhoi paneidiau o de i’m ffrindiau.

“Rydw i’n hoffi chwarae efo deinosoriaid” Louie, 3 oed.

Rydyn ni’n golchi ein dwylo ac yn cael brecwast yna rydyn ni’n dod at ein gilydd amser cylch. Rwy’n dysgu popeth am fy nheimladau. Nid oes gan fy ffrindiau yr un teimladau â mi bob amser. Rydw i’n hapus ond mae Gethin yn gyffrous, weithiau mae Beca yn swil. Pan fyddan ni yn mynd i chwarae cyn byrbryd rydan ni’n dewis ein gweithgareddau, rwyf yn gobeithio heddiw y galla i ddewis chwarae dŵr. Dyna yw fy hoff peth ond rwy’n dda iawn am gyfrif a gwneud siapiau rhif gyda cherrig a chregyn.

Ar ôl byrbryd rydan ni’n gwisgo ein esgidiau glaw ac yn mynd allan i chwarae. Rwy’n hoffi chwarae siarcod ar y bryn a rhedeg trwy’r twnnel. Ein hoff gêm redeg yw Faint o’r gloch Mr Blaidd?

Pan ddown i fewn mae angen i ni cadw ein esgidiau glaw  a brwsio’r holl fwd oddi ar y llawr.

Pan fyddaf yn gynorthwyydd y dydd rwy’n hoffi rhoi’r cadeiriau o amgylch y byrddau ar gyfer cinio ond ar adegau eraill rwy’n gwrando ar Olwen yn adrodd straeon. Messy Monsters yw fy hoff stori. Rwy’n hoffi eistedd gyda Harri a Lois. Rwy’n dda iawn am arllwys fy diodydd fy hun heb ollwng diferyn.

Ar ôl cinio mae rhai plant yn mynd am gwsg tra bod rhai ohonom ni’n cael amser tawel. Rwy’n hoffi’r teganau ffidget rwy’n chwarae gyda nhw wrth y bwrdd gyda Olwen, ac yna gallaf wneud rhywfaint o baentio neu liwio. Mae Rocco wrth ei fodd yn ysgrifennu gyda’i fysedd yn yr hambyrddau tywod. Daw amser tacluso yn gyflym iawn a chyn te rydym yn dawnsioTtraed Bach Sionc gyda Carla.

“Dw’i yn hoffi chwarae efo teganau dw’i yn licio dawnsio efo ffrindiau” Ava 4 oed.

Ar ôl te rydym yn dewis yr hyn yr hoffem ei wneud. Rwy’n hoffi gwneud lluniau Rala Rwdins a chwarae bingo gyda Emma. Yn fuan, mae’n bryd i ni fynd adref. Tra disgwyl am Mam fydda i yn chwarae gyda rhai teganau wrth y bwrdd neu mewn cornel chwarae ac mae’r ystafelloedd chwarae’n cael eu glanhau yn barod am ddiwrnod arall.

“Hoff pethau fi i wneud yw chwarae efo teganau a dawnsio Traed Bach Sionc” Harri 4 oed.